New winter set-up at The Ship… May have to wake a few customers from here this winter…
Y Llong / The Ship Llangrannog
-
2010-10-01
-
→
Hydref yn y Llong / Autumn at The Ship
ENGLISH BELOW
Helo Ffrindiau,
Gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael haf da er y tywydd! Cafon ni haf da lawr fan hyn yn Llangrannog a diolch i bawb ddaeth i weld ni dros y misoedd diwethaf. Gobeithio ein bod ni’n dal yn eich plesio! Newyddion da o fan hyn, cafodd Gareth y chef a’i wraig Akiko merch fach ym mis Gorffennaf a ry’n ni i gyd yn falch iawn drostyn nhw..
TAD HAPUS!
Mae’r pysgota wedi bod yn ffafriol eleni gyda dad yn dal nifer o grancod a cimwch, ambell i Ddraenog y Môr, mecryll a nawr mae’r sgadan yn dechre’ dod. Mae e wedi bod mor llwyddiannus eleni, mae e wedi penderfynu ychwanegu cwch arall i’r llynges(!) a mi fydd yn pysgota allan o Aberaeron yn fuan iawn..Dewch lawr i’r Llong i flasu’r cynhyrch mae’n ei ddal…

PYSGOTWR HAPUS!
Ry’n ni dal yn falch iawn o’r cynhyrch ry’n ni’n cynnig yma yn Y Llong ac ein perthynas gyda’n cyflenwyr gan gynnwys Siop Fferm Llwynhelyg (Sarnau), Popty Brynawel (Bettws Ifan),Cigydd Rob Rattray (Aberystwyth), Ultracomida (Aberystwyth) a Madarch Maesyffin (Llandysul).
Ry’n ni wrthi’n paratoi nawr ar gyfer yr Hydref a’r Gaeaf gyda noson Tân gwyllt i edrych ymlaen iddi yn y pentref; gobeithio bydd tywydd gwell na llynedd(!) ac wrthgwrs Nadolig, mi fydd ambell i noson arbennig rhwng rhain hefyd i’ch diddanu. Yn gyntaf fydd
8.10.10
Noson yr Hydref yn y Llong
Bwydlen arbennig yn cynnwys bwyd gan gynhyrchwyr lleol a gwin gwahanol gyda pob pryd.
Mi fydd y noson yn dechre am 7.00yh.
Pryd 5 cwrs. £35.00 y pen yn cynnwys gwin.
Mae rhaid archebu lle ar gyfer y noson hon.
Ffoniwch 01239 654510 neu ebostiwch yn ol.
30.10.10
Noson Tan Gwyllt Llangrannog
Noson enwog yng nghalendar digwyddiadau Llangrannog gyda arddangosfa anhygoel o dan gwyllt yn saethu i’r nen o bob clogwyn a choelcerth anferth ar y traeth.
O 5.30yh ymlaen fydd gyda ni rhost mochyn, cawl a seidr cynnes i’ch twymo tra’n gwylio’r arddangosfa.
Mi fydd y bwyty ar agor gyda bwydlen arbenning ar gyfer y noson.
Ffoniwch 01239 654510 neu ebostiwch yn ol mewn da bryd i archebu lle.Cadwch lygad allan am fwy o bethau’n digwydd gyda ni yn Y Llong drwy edrych ar Twitter @shipllangrannog, Facebook a ry’ ni ar fin cyhoeddi gwefan a nawr drwy ein Blog newydd fan hyn lle bydd straeon a lluniau o dro i dro..
Felly, tan y tro nesa…
Sara
______________________________________________________________
Hello friends,
I hope you’ve all had a nice summer despite the weather. We’ve had a good season down here in Llangrannog and thanks to everybody who’s been down in the last few months, we appricate your support. Good news from here is that our chef Gareth and his wife Akiko had a baby girl in July, we’re all very pleased for them and wish them all the best…PROUD FATHER!
We’ve had a great season for fishing, dad had caught a number of lobsters & crabs for our specials board, some Sea bass, mackerel and the herring have started to come in. He’s been so successful this year, he’s decided to add to his fleet(!) and will now be fishing out of Aberaeron in addition to Llangrannog… Be sure to come down and taste the new catch….
PROUD FISHERMAN!
We’re still very proud of our products here at The Ship and our relationship with all of our producers, including Llwynhelyg Farm Ship (Sarnau), Brynawel Bakery (Bettws Ifan), Rob Rattray Butchers (Aberystwyth), Dewi James Butchers (Cardigan), Ultracomida (Aberystwyth) and Maesyffin Mushrooms (Llandysul).
Now, we are preparing for the Autumn & Winter with the infamous Llangrannog Bonfire night on our door step, I hope the weather’s a bit better than last year(!) and Christmas following closely, in the meantime we’ll have a few special events for you to enjoy. Firsty we have…
8.10.10
Autumn night at The Ship
A special menu to show off Autumn local produce and a special wine tasting night with our supplier Finewines Direct.
Please arrive for 7pm.
5 course meal for £35 p/p including wine
Booking essential.
Please phone 01239 654510
30.10.10
Llangrannog Bonfire night
The infamous Llangrannog bonfire night with a spectacular fireworks display, with rockets soaring high from every cliff and a giant bonfire on the beach.
From 5.30pm, we will have a pig roast, cawl & mulled cider to warm up while watching the display.
The restaurant will be open with a special menu for the evening.
Please phone 01239 654510 to book your placeKeep an eye out for more going ons at The Ship through Twitter @shipllangrannog, Facebook and now our new Blog (!) where you’ll find some news about us occasionally. Look out for about to be published website too - we’re almost there!
So, bye for now..
Sara

